Skip to content




EIN CYNIGION

Ein cynigion ar gyfer Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas.

Beth yw’r prosiect?

Bydd Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas yn cysylltu’r ynni glân a gwyrdd a gynhyrchir gan Barciau Ynni arfaethedig Banc Du a Rhiwlas â’r grid trydan cenedlaethol. Er mwyn gwneud hyn, rydym yn cynnig gosod llinell uwchben 132kV (132,000 folt) newydd, wedi’i chynnal ar bolion pren, rhwng Parc Ynni Rhiwlas ac is-orsaf gasglu newydd ger Cefn Coch, Llanfair Caereinion (rhan o brosiect cysylltu Efyrnwy-Frankton Green GEN Cymru). Rydym hefyd yn cynnig creu llwybr cebl tanddaearol newydd, tua 3km o hyd, ar y foltedd isaf o 33kV, i gysylltu’r Parciau Ynni.

I gael rhagor o wybodaeth am Barc Ynni Banc Du Bute Energy, cliciwch here.

I gael rhagor o wybodaeth am Barc Ynni Rhiwlas Bute Energy, cliciwch here.

Pam mae angen y prosiect?

Nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y capasiti i gysylltu prosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy newydd â’r grid cenedlaethol. Mae Green GEN Cymru yn ceisio mynd i’r afael â hyn drwy ddarparu cysylltiad newydd.

Bydd Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas yn cysylltu Parciau Ynni arfaethedig Bute Energy, a fydd, gyda’i gilydd, yn cynhyrchu tua 145MW (megawat) o ynni adnewyddadwy i’r grid cenedlaethol, gan gefnogi’r gwaith o ddarparu ynni glân a gwyrdd i’r cartrefi, cymunedau a busnesau sydd ei angen.

Sut fydd y llinell uwchben yn edrych?

Rydym yn deall bod gan bobl wahanol safbwyntiau am y seilwaith sydd ei angen i gysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy newydd â’r grid cenedlaethol. 

Byddai’r llinell uwchben a gynigir fel rhan o Rwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas yn cael ei gosod ar bolion pren, ac mae enghreifftiau o hynny i’w gweld isod. Mae’r polion hyn fel arfer yn 12-14m o uchder, er y gall hyn amrywio yn dibynnu ar amodau lleol – er enghraifft, newidiadau mewn topograffeg, neu lle mae angen i’r cysylltiad groesi ffyrdd neu reilffyrdd, i hyd at 15m o uchder.

Pan fydd y llinell arfaethedig yn newid cyfeiriad, bydd angen gosod polion ongl, a weiars ychwanegol i leihau tensiwn a sicrhau sefydlogrwydd.

Image

Dyma enghreifftiau o sut bydd y cysylltiad a’r polion pren yn edrych

Y broses cynllunio

Mae’r ffaith bod llinellau uwchben 132kV newydd yn cael eu gosod yn golygu bod y prosiect hwn yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol yng Nghymru. Gweinidogion Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar y prosiect, a rhaid i ddatblygwyr wneud cais am ganiatâd cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC). 

Cyn cyflwyno cais cynllunio, byddwn yn cynnal amrywiaeth o asesiadau technegol ac arolygon i lywio ein Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Bydd yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol wedyn yn rhan o’r Datganiad Amgylcheddol, sy’n nodi effeithiau posibl prosiect Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas ac unrhyw fesurau lliniaru arfaethedig.

Cyn cyflwyno cais cynllunio i PCAC, byddwn yn ymgynghori â chyrff statudol penodol, fel Cyngor Sir Powys a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal ag asiantaethau a chyrff eraill i gasglu eu barn am y prosiect.

Byddwn hefyd yn cynnal rhagor o ymgynghoriadau â chymunedau lleol, gan gynnwys Ymgynghoriad Statudol Cyn Ymgeisio lle bydd trigolion, rhanddeiliaid a phartïon eraill sydd â diddordeb yn gallu adolygu a rhoi sylwadau ar ddyluniadau manwl prosiect Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas, yn ogystal â’r Datganiad Amgylcheddol drafft.

Amserlen y prosiect
Isod ceir syniad o gerrig milltir allweddol prosiect Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas. Sylwch, mae’n bosibl y bydd y rhain yn newid, a bydd diweddariadau’n cael eu gwneud i’r amserlen dros y misoedd nesaf.

Ymgynghoriad anstatudol ar goridor y llwybr sy’n cael ei ffafrio

Tachwedd 2023 i Ionawr 2024

Adolygu’r adborth a mireinio opsiynau'r llwybr

Dechrau 2024

Cyflwyno cais cwmpasu i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru

Dechrau 2024

Arolygon technegol ac asesiadau parhaus, a datblygu dyluniad

Canol/diwedd 2024

Ymgynghoriad cyhoeddus anstatudol pellach

Diwedd 2024

Ymgynghoriad Statudol Cyn Ymgeisio

Canol 2025

Cyflwyno cais Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol

Diwedd 2025

Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas yn weithredol

2028

Y llwybr rydym yn ei ffafrio

Gan weithio gyda’n hymgynghorwyr amgylcheddol, rydym wedi nodi coridor o dir sy’n cael ei ffafrio ar gyfer llwybr y llinell uwchben. Hyd yma, mae cymunedau lleol, cyfyngiadau (fel dynodiadau) a ffactorau adeiladu i gyd wedi cael eu hystyried wrth lywio ein penderfyniadau.

Wrth ddatblygu ein cynigion, rydym wedi ceisio sicrhau ein bod yn osgoi’r ystyriaethau hyn, ac wedi ceisio lleihau’r effeithiau cymaint â phosibl lle nad oedd modd i’w hosgoi.   Wrth i ni ddatblygu ein cynigion ymhellach, byddwn yn parhau i asesu sut gallai’r rhain effeithio ar bobl leol, y dirwedd, bioamrywiaeth, coedwigaeth, treftadaeth ddiwylliannol, perygl llifogydd, defnyddiau tir eraill a’r gwaith i leihau’r effeithiau.

Rydym yn awyddus i ddeall safbwyntiau lleol fel rhan o’r broses o fireinio a datblygu’r llwybr sy’n cael ei ffafrio ar gyfer y llinell uwchben.

Rydym yn ymwybodol y gall y gwaith o ddatblygu seilwaith newydd fod yn aflonyddgar i gymunedau. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i achosi cyn lleied â phosibl o aflonyddwch i’r amgylchedd ac i’r sawl sy’n byw, yn gweithio ac yn mwynhau gweithgareddau hamdden yng nghyffiniau ein cynigion. 

Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym wedi nodi’r llwybr rydym yn ei ffafrio ar gael yn ein Dogfen Llwybro ac Ymgynghori, sydd ar gael here.