Gweithio gyda pherchnogion a thirfeddianwyr
Mae Green GEN Cymru wedi ymrwymo i feithrin perthynas waith gref â pherchnogion a thirfeddianwyr wrth i ni ddatblygu ein cynigion ar gyfer Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas.
Byddwn yn gweithio gyda chi wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, ac rydym yn eich annog i gysylltu â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Mae angen i ni wybod pwy sydd â buddiant cyfreithiol yn y tir yn ardal y llwybr arfaethedig ar gyfer Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas. Bydd ein hasiantau tir penodedig, WSP, yn cysylltu â thirfeddianwyr i sicrhau bod gennym gofnodion cywir a chyfredol ar eu cyfer.
Mynediad ar gyfer arolygon
Fel rhan o’n gwaith, mae angen i ni gynnal arolygon i helpu i lywio dyluniad y cynllun a’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
Byddwn yn arolygu ardal eang i sicrhau ein bod yn deall yr amgylchedd lleol, sut gallai ein gwaith effeithio arno, a nodi unrhyw fesurau lliniaru sydd eu hangen. Mae’r arolygon hyn yn cynnwys daeareg, ecoleg a defnydd tir. Os byddwn yn gofyn am gynnal arolygon ar eich tir, nid yw o reidrwydd yn golygu y bydd y tir yn rhan o’r llwybr, neu y bydd seilwaith yn cael ei osod arno. Bydd canlyniadau’r arolygon yn helpu i lywio penderfyniadau ynghylch llwybrau a lleoliad prosiect Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas.
Bydd canfyddiadau’r arolygon hyn yn ein helpu i ddatblygu aliniad manwl ar gyfer llwybr y llinell uwchben, gan gynnwys lleoliadau ar gyfer y polion pren, llwybrau mynediad ac ardaloedd gweithio, a byddant yn cael eu cynnwys yn ein Hasesiad o’r Effaith Amgylcheddol. Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus arall ar aliniad y llwybr arfaethedig ddiwedd 2024/dechrau 2025.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda pherchnogion a thirfeddianwyr i gytuno ar fynediad fel bod arolygon yn cael eu cynnal gyda chyn lleied o anhwylustod â phosibl.
Arolygon Amgylcheddol a Pheirianneg
Taliadau i Dirfeddianwyr
Os ydych chi’n dirfeddiannwr ac eisiau rhagor o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni:
E-bost – landsbancdurhiwlas@wsp.com
Ffôn – 0161 200 5081
Post – FREEPOST TC CONSULTATION (nid oes angen stamp neu gyfeiriad arall)