Skip to content




LLWYBR CORRIDOR FFAFRIEDIG

Rydyn ni wedi cynhyrchu map rhyngweithiol yn dangos y coridor arfaethedig ar gyfer y llwybr rydyn ni’n ei ffafrio ar gyfer Rhiwlas GEN, a oedd ar gael i’w adolygu a rhoi sylwadau arno yn ystod ein hymgynghoriad anstatudol diweddar. 

Er hwylustod, fe wnaethom rannu’r llwybr yn dair prif adran. Gallwch weld y rhain o hyd drwy ddewis yr opsiwn perthnasol o’r rhestr isod, neu drwy glicio un o’r eiconau sydd i’w gweld ar y map rhyngweithiol.

Mae’r ymgynghoriad ar ben – sylwch fod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer prosiect Rhiwlas GEN bellach wedi dod i ben. Bydd y map hwn yn cael ei ddiweddaru fel rhan o ymgynghoriad anstatudol nesaf Green GEN Cymru, a fydd yn cael ei gynnal ddiwedd 2024/ddechrau 2025.

Coridor 1 yn y Ddogfen Llwybro ac Ymgynghori

Coridorau 2 a 3 yn Ddogfen Llwybro ac Ymgynghori

Coridor 4 yn y Ddogfen Llwybro ac Ymgynghori



Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith rydym wedi’i wneud i fireinio’r coridor rydym yn ei ffafrio ar gael yn y Ddogfen Llwybro ac Ymgynghori, sydd ar gael yma. Mae’r Ddogfen Llwybro ac Ymgynghori yn egluro cefndir prosiect Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas, yn rhoi disgrifiad o’r cysylltiad grid arfaethedig ac yn amlinellu’r fethodoleg rydym wedi’i defnyddio ar gyfer y gwaith llwybro. Mae’r Ddogfen Llwybro ac Ymgynghori hefyd yn cyflwyno canfyddiadau’r asesiadau amgylcheddol cychwynnol o’r opsiynau llwybr, ac yn nodi gwybodaeth am y ‘coridor llwybr a ffafrir’ ar gyfer y cysylltiad.