Mae Bute Energy yn gwmni ynni adnewyddadwy yng Nghymru sy’n cyfuno profiad ag arloesedd. Ein nod yw bod yn flaengar ym mhopeth a wnawn, ac rydyn ni’n frwd dros ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddarparu ynni adnewyddadwy gan ddefnyddio technoleg ddibynadwy sydd wedi ennill ei phlwyf.
Mae pencadlys Bute Energy yng Nghaerdydd ac mae’n canolbwyntio ar Gymru. Rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o adeiladu gwlad carbon isel a ffyniannus, gan ddarparu ynni glân a chefnogi cymunedau hyfyw, nawr ac yn y dyfodol. Mae’r argyfwng ynni presennol wedi tynnu sylw at fregusrwydd ynni’r DU i rymoedd allanol, gyda goblygiadau sylweddol o ran fforddiadwyedd ynni.
Bydd ynni adnewyddadwy ar y tir yng Nghymru yn darparu mwy o ddiogelwch ynni, gan leihau’r ddibyniaeth ar danwydd ffosil sy’n cael ei fewnforio. Yn ogystal â hyn, ynni gwynt ar y tir yw’r dewis mwyaf costeffeithiol ar gyfer trydan newydd yn y DU – rhatach na nwy, niwclear, glo ac ynni adnewyddadwy arall.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Bute Energy www.bute.energy.
Mae Green Generation Energy Networks Cymru (Green GEN Cymru) yn rhan o grŵp cwmnïau Bute Energy, sydd wedi’i leoli yng Nghymru.
Bydd Green GEN Cymru yn dylunio, yn adeiladu ac yn gweithredu rhwydwaith dosbarthu 132kV newydd sydd ei angen i gysylltu prosiectau ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru â’r rhwydwaith trawsyrru trydan, gan helpu i sicrhau ynni gwyrdd i gartrefi a busnesau ledled Cymru a thu hwnt.
Gall ein rhwydwaith grid gwyrdd ddarparu ateb rhwydwaith rhanbarthol ar gyfer De a Chanolbarth Cymru. Bydd generaduron ynni eraill yn gallu gwneud cais i gysylltu ag ef, gan leihau’r angen am fwy o seilwaith yn y dyfodol.
Byddwn yn gweithio’n agos gyda chymunedau a rhanddeiliaid yng Nghymru wrth i ni ddatblygu ein cynlluniau, er mwyn manteisio i’r eithaf ar y buddion a lleihau’r effeithiau i bobl leol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Green GEN Cymru www.greengencymru.com.
Mae’r seilwaith trydan yn gwasanaethu Gogledd a De Cymru’n dda, ond mae Canolbarth Cymru’n cael ei gydnabod yn eang fel rhanbarth sy’n cael ei wasanaethu’n wael yn y cyswllt hwn. Mae’r diffyg seilwaith trydan hwn wedi bod yn rhwystr o ran cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt ar y tir yn yr ardal a hefyd o ran caniatáu cyfleoedd i ddatblygu swyddi a sgiliau yn y rhanbarth.
Adeiladwyd llawer o’r seilwaith grid presennol yng Nghymru flynyddoedd lawer yn ôl i gludo trydan o hen orsafoedd pŵer tanwydd ffosil yn y gogledd a’r de. Bydd cynhyrchu ynni yn y dyfodol yn dod yn bennaf o ffynonellau adnewyddadwy a bydd yn cael ei ddosbarthu’n fwy eang, felly bydd angen seilwaith grid newydd wedi’i ddiweddaru i gael yr ynni i’r cartrefi, yr ysgolion, yr ysbytai a’r busnesau sydd ei angen. Mae Bute Energy wedi ymrwymo i gysylltu ffynonellau newydd o ynni adnewyddadwy yn unol â thargedau Llywodraeth Cymru.
Mae gan ein rhwydwaith grid gwyrdd y potensial i ddarparu ateb rhwydwaith rhanbarthol ar gyfer y Canolbarth. Bydd generaduron ynni eraill yn gallu gwneud cais i gysylltu ag ef, gan leihau’r angen am fwy o seilwaith yn y dyfodol.
Mae portffolio Bute Energy yn cynnwys prosiectau ar wahanol gamau datblygu, a disgwylir i’r prosiectau cyntaf ddechrau’r gwaith adeiladu yn 2024. Gyda’i gilydd, gallai’r portffolio o ffermydd gwynt ar y tir, prosiectau solar ffotofoltaig a systemau storio ynni batri sydd wedi’u cydleoli fod â chapasiti wedi’i osod o fwy na 3 GW erbyn 2030, gan wneud cyfraniad sylweddol tuag at gyrraedd targedau ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru ac amcanion carbon sero net Llywodraeth y DU.
Gan weithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol, bydd ein cynigion uchelgeisiol yn golygu ein bod yn cynyddu ynni adnewyddadwy yng Nghymru, gan helpu i fynd i’r afael â’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol: yr argyfwng hinsawdd.
Mae Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas yn ceisio cysylltu Parciau Ynni arfaethedig Banc Du a Rhiwlas â’r grid trydan.
Mae cynnig Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas yn cynnwys llinell uwchben cylched sengl 132kV newydd ar bolion pren o Barc Ynni arfaethedig Rhiwlas i is-orsaf gasglu yng Nghefn Coch, Llanfair Caereinion, tua 35km i ffwrdd. Mae’r prosiect hefyd yn cynnwys datblygu llwybr cebl tanddaearol, tua 3km o hyd, ar y foltedd isaf o 33kV, i gysylltu’r ddau barc ynni.
Mae’r prosiect yn cael ei ystyried yn Ddatblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol, a bydd gofyn cael caniatâd gan Weinidogion Cymru.
Mae Parc Ynni Banc Du a Pharc Ynni Rhiwlas yn brosiectau ynni adnewyddadwy ar y tir ym Mhowys yng Nghanolbarth Cymru, ger anheddiad Llangurig. Bwriedir i’r prosiectau ddarparu hyd at 22 o dyrbinau gwynt, traciau mynediad, adeiladau is-orsafoedd a seilwaith cysylltiedig arall. Mae’r ddau brosiect yn dod o dan y drefn gynllunio Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS). Felly, bydd ceisiadau cynllunio ar wahân yn cael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru drwy Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), a fydd yn asesu effaith gyffredinol y prosiectau ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru i wneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ai peidio.
Cynhaliwyd ymgynghoriad anstatudol ar y ddau Barc Ynni ddiwedd 2022, a bwriedir cynnal ymgynghoriad statudol pellach cyn cyflwyno dau gais cynllunio i PEDW ddechrau 2024. Mae rhagor o wybodaeth am Barciau Ynni Banc Du a Rhiwlas ar gael yn www.bancduenergypark.wales a www.rhiwlasenergypark.wales.
Bydd Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas yn cysylltu’r ynni glân a gwyrdd a gynhyrchir gan Barciau Ynni arfaethedig Banc Du a Rhiwlas â’r grid trydan cenedlaethol. Er mwyn gwneud hyn, rydyn ni’n cynnig gosod llinell uwchben 132kV (132,000 folt) newydd, wedi’i chynnal ar bolion pren, rhwng Parc Ynni Rhiwlas ac is-orsaf gasglu newydd ger Cefn Coch, Llanfair Caereinion (rhan o brosiect cysylltu Efyrnwy-Frankton, Green GEN Cymru). Rydyn ni hefyd yn cynnig creu llwybr cebl tanddaearol, tua 3km o hyd, ar y foltedd isaf o 33kV, i gysylltu’r Parciau Ynni. Bydd yr ynni a gynhyrchir wedyn yn cael ei gludo i’r rhwydwaith trawsyrru cenedlaethol i bwynt cysylltu yn Lower Frankton yn Swydd Amwythig.
Bydd Green GEN Cymru yn talu am adeiladu a chynnal a chadw’r rhwydwaith dosbarthu trydan newydd, a bydd parciau ynni Bute Energy yn talu ffi flynyddol am ddefnyddio’r rhwydwaith dosbarthu.
Fel busnes ynni adnewyddadwy yng Nghymru, credwn ein bod mewn sefyllfa unigryw i weithio gyda chymunedau, tirfeddianwyr, rhanddeiliaid a chyflenwyr yng Nghymru i greu manteision economaidd a chymunedol i Gymru. Gall ein rhwydwaith grid gwyrdd ddarparu ateb rhwydwaith rhanbarthol ar gyfer rhanbarth Canolbarth Cymru.
Mae’n rhaid i brosiectau cysylltiad grid fel Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas ystyried amrywiaeth eang o faterion gan gynnwys pethau fel yr effaith ar yr amgylchedd, cyfyngiadau peirianneg, topograffeg a hyfywedd economaidd.
Mae gosod ceblau dan y ddaear yn aml yn gallu cael effaith fwy sylweddol ar yr amgylchedd o ystyried natur ymwthiol y gwaith adeiladu, ac mae’n costio hyd at ddeg gwaith yn fwy na’r gwaith o adeiladu llinell uwchben.
Mae’r ffactorau hyn eisoes wedi cael eu hystyried yn fanwl, ond fel rhan o’n hymgynghoriad rydyn ni’n awyddus i glywed barn pobl am y gwaith rydyn ni wedi’i wneud hyd yma, gan gynnwys ardaloedd o sensitifrwydd uchel ar hyd y llwybr lle gallai fod angen lliniaru, gan gynnwys defnyddio ceblau tanddaearol.
Byddai’r llinell uwchben a gynigir fel rhan o Rwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas yn cael ei gosod ar bolion pren, ac mae enghreifftiau i’w gweld isod. Mae’r polion hyn fel arfer yn 12-14m o uchder, er y gall hyn amrywio yn dibynnu ar amodau lleol – er enghraifft, newidiadau mewn topograffeg, neu lle mae angen i’r cysylltiad groesi ffyrdd neu reilffyrdd, i hyd at 15m o uchder.
Pan fydd y llinell arfaethedig yn newid cyfeiriad, bydd angen gosod polion ongl, a weiars ychwanegol i sicrhau sefydlogrwydd.
O ystyried cymeriad gwledig y llwybr llinell uwchben arfaethedig, teimlir y bydd polion pren yn gweddu’n sensitif i’r dirwedd, gan leihau effaith weledol gyffredinol y cynigion.
Mae enghreifftiau o luniau o sut bydd y polion pren yn edrych i’w gweld isod.
Mae enghreifftiau o luniau o sut bydd y polion pren yn edrych i’w gweld isod
Mae ymgynghori â thirfeddianwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd yn rhan allweddol o baratoi ein cynlluniau. Rydyn ni hefyd yn dilyn canllawiau sefydledig ar gyfer llwybro llinellau uwchben, gan ystyried astudiaethau amgylcheddol, ffactorau technegol ac economaidd.
Mae’n broses gymhleth, ac mae’n rhaid i ni gael cydbwysedd rhwng ffactorau amgylcheddol, gofynion peirianneg, hyfywedd economaidd a safbwyntiau pobl sy’n byw, yn gweithio, yn mwynhau hamdden ac yn pasio drwy’r ardal.
Yn dilyn y rownd gyntaf o ymgynghori, byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a gawn, ynghyd â rhagor o wybodaeth amgylcheddol, a gwybodaeth o asesiadau technegol ac arolygon.
Byddwn wedyn yn datblygu aliniad llwybr manwl, gan gynnwys lleoliadau polion pren arfaethedig, ardaloedd gweithio a llwybrau mynediad, a fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus pellach, sy’n debygol yn ystod hydref/gaeaf y flwyddyn nesaf, ac yna Asesiad manwl o’r Effaith Amgylcheddol.
Byddwn wedyn yn cynnal Ymgynghoriad Cyn Ymgeisio ‘statudol’ terfynol a fydd yn galluogi trigolion, rhanddeiliaid a phartïon eraill sydd â diddordeb i adolygu a chyflwyno sylwadau ar yr holl ddogfennau cais drafft cyn i’r cynlluniau gael eu cwblhau a chyflwyno cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).
Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ar gael yn ein Dogfen Llwybro ac Ymgynghori.
Mae gofyn cael caniatâd gan Weinidogion Cymru ar gyfer llinellau uwchben 132kV o dan Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016.
Yn dilyn ein hymgynghoriad cyn ymgeisio a chwblhau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, byddwn yn cyflwyno cais cynllunio i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) tua hydref 2025. Bydd arolygwyr cynllunio annibynnol wedyn yn cynnal rownd derfynol o ymgynghori statudol cyn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru ynghylch a ddylid rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y cais ai peidio.
Megis dechrau mae’r prosiect hwn ac nid oes unrhyw benderfyniadau terfynol wedi’u gwneud ynghylch lleoliad y polion pren. Bydd y llwybr terfynol yn seiliedig ar amrywiaeth eang o adborth gan drigolion, rhanddeiliaid a chyrff statudol fel PEDW, Cyfoeth Naturiol Cymru ac eraill, yn ogystal â chanlyniadau asesiadau ac arolygon technegol.
Ar ôl i ni gael dyluniad terfynol, byddwn yn siarad â’r holl dirfeddianwyr yr effeithir arnynt fesul un, ac yn trafod sut gallwn eu cefnogi. Byddwn yn gweithio’n galed i leihau’r effeithiau ar eiddo unigol, ond os bydd y dyluniad terfynol yn effeithio ar eich eiddo, byddwn yn trafod pa iawndal sydd ar gael i chi yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol. Cysylltwch â ni os oes gennych bryder penodol.
Bydd Bute Energy yn sefydlu Cronfa Budd Cymunedol ar gyfer pob un o’i Barciau Ynni. Bydd y gronfa o fudd nid yn unig i bobl leol sy’n agos at y Parc Ynni, ond i bobl ar hyd llwybr cysylltiadau’r grid hefyd.
Yn ogystal â galluogi cymunedau ar hyd coridor y llinell uwchben arfaethedig i gael mynediad at y Gronfa Budd Cymunedol, byddwn hefyd yn ceisio manteisio i’r eithaf ar effaith gadarnhaol y prosiect drwy ein proses gaffael, yn ogystal â gweithio gyda darparwyr addysg a hyfforddiant lleol i ddatblygu llwybrau at gyfleoedd gyrfa a hyfforddiant yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Bydd Bute Energy hefyd yn edrych ar sut gallwn gefnogi’r gwaith gyda grwpiau, sefydliadau neu fentrau lleol, boed hynny’n ariannol neu drwy ein polisi gwirfoddoli staff gweithredol.
Fel rhan o’n hymgynghoriad, rydyn ni’n awyddus i glywed gan drigolion am yr hyn yr hoffent ei weld yn cael ei wella yn eu hardal leol, neu a oes unrhyw grwpiau neu brosiectau y dylem fod yn siarad â nhw. Byddem yn annog pobl i gysylltu â ni i rannu’r rhain â ni.
Bydd y prosiect hwn yn galluogi ynni carbon isel a gynhyrchir i gael ei gysylltu â’r rhwydwaith trydan ac â’r cartrefi a’r busnesau lle rydyn ni’n ei ddefnyddio. Unwaith y bydd ar waith, ynni gwynt yw un o’r ffyrdd rhataf o gynhyrchu trydan a bydd y prosiect hwn yn cyfrannu at reoli ein prisiau ynni yn y dyfodol.
Nid oes unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ynghylch sut bydd y Gronfa Budd Cymunedol yn cael ei gweinyddu. Ond rydyn ni am wneud yn siŵr bod cynifer o bobl, grwpiau a darparwyr gwasanaethau lleol â phosibl yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y gronfa. Felly, os oes gennych chi unrhyw farn am sut gallai’r Gronfa Budd Cymunedol gael effaith gadarnhaol yn eich ardal chi, byddem wrth ein bodd yn eu clywed fel rhan o’n hymgynghoriad.
Mae Meysydd Trydanol a Magnetig (EMF) yn cael eu cynhyrchu pan fydd trydan yn cael ei ddefnyddio neu ei drosglwyddo. Mae EMF cefndirol yn bresennol yn y rhan fwyaf o gartrefi. Maent yn cael eu cynhyrchu gan wifrau’r cartref, offer trydanol, ceblau dosbarthu foltedd isel sy’n cludo trydan ar hyd strydoedd a gan linellau pŵer foltedd uchel ac is-orsafoedd.
Mae rhagor o wybodaeth am Feysydd Trydanol a Magnetig ar gael ar y wefan www.emfs.info.
Rydyn ni’n ymgynghori nawr er mwyn deall barn pobl ar y llwybr rydyn ni’n ei ffafrio ar gyfer y llinell uwchben, ac unrhyw beth yr hoffech i ni ei ystyried wrth gynllunio ble dylai’r polion pren fynd.
Rydyn ni wedi cyhoeddi manylion ein cynigion ar wefan ein prosiect a byddwn yn cynnal cyfres o arddangosfeydd cyhoeddus i siarad â phobl er mwyn iddynt allu cael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau a gofyn cwestiynau i dîm y prosiect.
Yn dilyn y rownd gyntaf hon o ymgynghori â’r cyhoedd, byddwn yn ystyried yn ofalus yr holl adborth a gawn, ynghyd ag asesiadau o’n harolygon amgylcheddol a thechnegol. Bydd hyn yn ein helpu i ddatblygu dyluniad ac aliniad manylach ar gyfer y llinell uwchben newydd, gan gynnwys lleoliadau ar gyfer y polion pren, y llwybrau mynediad a’r ardaloedd gwaith.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad yn crynhoi’r adborth a gafwyd yn y rownd gyntaf hon o ymgynghori a sut mae hyn wedi dylanwadu ar ein cynigion.
Byddwn wedyn yn ymgynghori â chymunedau lleol eto ar ein cynigion manylach i ddeall eu safbwyntiau a chasglu adborth a fydd yn cael ei ddefnyddio ochr yn ochr â chanfyddiadau arolygon ac asesiadau technegol pellach. Mae’n debyg y bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ystod hydref 2024. Yn dilyn yr ail rownd hon o ymgysylltu, byddwn unwaith eto’n ystyried yr adborth a gafwyd ac yn mireinio ein cynlluniau ymhellach, cyn cynnal Asesiad manwl o’r Effaith Amgylcheddol.
Bydd cymunedau lleol wedyn yn cael cyfle i adolygu a rhoi sylwadau ar ein Datganiad Amgylcheddol drafft, a fydd yn cynnwys yr holl wybodaeth a gesglir yn ein harolygon technegol yn ogystal ag unrhyw fesurau lliniaru arfaethedig, a rhoi rhagor o adborth ar ein cynlluniau fel rhan o’n Hymgynghoriad Cyn Ymgeisio statudol terfynol. Mae’n debyg y bydd y rhain yn cael eu cynnal yn ystod haf/hydref 2025.
Gallwch gysylltu â thîm y prosiect a/neu roi eich adborth drwy unrhyw un o’r dulliau a amlinellir isod:
- Llenwi ein ffurflen adborth ar-lein.
- Anfon e-bost at dîm y prosiect yn info@rhiwlasGEN.wales.
- Ffonio ein llinell wybodaeth rhadffôn ar – 0800 699 0081 (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm)
- Ysgrifennu atom yn FREEPOST TC CONSULTATION (does dim angen stamp neu gyfeiriad arall)
Gallwch hefyd fynd i un o’n digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus, siarad ag aelod o’r tîm a llenwi ffurflen adborth wyneb yn wyneb. Mae rhagor o fanylion am ein digwyddiadau ar gael yma.