Skip to content




BUDD CYMUNEDOL

Mae gan Bute Energy weledigaeth ar gyfer Cymru iachach a chyfoethocach gyda chynhyrchu ynni fel pŵer cadarnhaol i bawb – nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Bydd Bute Energy yn buddsoddi oddeutu £800m dros 40 mlynedd yn y cymunedau sydd agosaf at eu prosiectau drwy Gronfa Budd Cymunedol a reolir yn annibynnol. Bydd y gronfa’n agored i gynigion gan sefydliadau a grwpiau, a hynny er mwyn sicrhau effaith gadarnhaol ar y cymunedau sydd agosaf at eu prosiectau parc ynni.

Fel rhan o’n hymgyrch i helpu Cymru i ddiwallu ei hanghenion ynni, bydd y Gronfa Budd Cymunedol hefyd ar gael i gymunedau sy’n byw’n agos at y seilwaith mae Green GEN Cymru yn ei gynnig. Mae hyn yn cynnwys prosiect Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas.

Buddion ehangach

Yn ogystal â Chronfa Budd Cymunedol benodol, mae Bute Energy hefyd yn ceisio nodi meysydd lle gallant gefnogi cymunedau lleol wrth gyflawni’r prosiect. Boed hynny drwy flaenoriaethu cadwyni cyflenwi lleol, manteisio i’r eithaf ar werth cymdeithasol drwy brosesau caffael, buddsoddi’n lleol i gefnogi swyddi a sgiliau gwyrdd, a llawer mwy: rydym wedi ymrwymo i sicrhau budd yn y byd go iawn ar unwaith.

Mae tîm Bute Energy eisoes wedi bod yn siarad â chymunedau i ddeall eu dyheadau ar gyfer eu hardal ac i ddeall rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig â byw a gweithio yn yr ardal wledig hon.

Ble hoffech chi i’r arian gael ei fuddsoddi? A oes unrhyw grwpiau, sefydliadau neu fentrau y gallwn gynnig rhywfaint o gymorth iddynt? Er bod ein hymgynghoriad bellach wedi dod i ben, hoffem glywed eich barn neu eich awgrymiadau o hyd, er mwyn deall yn well beth yw’r ffordd orau o wario’r arian hwn.