Cysylltu ynni adnewyddadwy â chartrefi a busnesau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd
Mae’r Argyfwng Hinsawdd yn fygythiad i’n planed ac i’n cymunedau. O ganlyniad, mae llywodraethau Cymru a’r DU wedi gosod targedau sy’n gyfreithiol rwymol i gyrraedd sero net (y cydbwysedd rhwng faint o nwy tŷ gwydr sy’n cael ei allyrru, o’i gymharu â’r swm sy’n cael ei dynnu o’r atmosffer) erbyn 2050, gan annog pobl i weithredu nawr, i sicrhau bod y dyfodol yn cael ei ddiogelu.
Er mwyn i Gymru gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gael 100 y cant o’i hanghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, bydd angen inni symud yn gyflym i gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy newydd a seilwaith ategol, er mwyn sicrhau grid ynni mwy cynaliadwy, gwell a diogel.
Yng Nghanolbarth Cymru, fodd bynnag, nid oes gan y rhwydwaith trydan presennol y capasiti i gysylltu ynni adnewyddadwy newydd â chartrefi a busnesau. Er mwyn rhoi terfyn ar ddefnyddio tanwyddau ffosil a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen seilwaith newydd arnom – ac yn gyflym.
O ganlyniad, mae Green Generation Energy Networks Cymru (Green GEN Cymru) yn cynnig gosod llinell uwchben i gysylltu Parc Ynni Banc Du a Rhiwlas ag is-orsaf casglu yn ucheldiroedd Powys, ger Cefn Coch. Maent hefyd yn cynnig gosod cebl tanddaearol newydd rhwng y Parciau Ynni arfaethedig. Mae’r cysylltiadau hyn yn ffurfio prosiect Rhwydwaith Ynni Gwyrdd Rhiwlas.
Rydym yn cynnig bod y llinell uwchben yn cael ei gosod ar bolion pren. Rydym yn teimlo y bydd polion yn cyd-fynd â’r dirwedd leol ac yn lleihau’r effaith weledol ar bobl a chymunedau lleol.
Rydym yn gwybod bod gan bobl safbwyntiau gwahanol am seilwaith newydd; rydym eisiau cydweithio â chymunedau lleol a gwrando ar eu safbwyntiau. Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu ein prosiect mewn modd sensitif, a hynny drwy ddefnyddio'r adborth a gawn drwy'r ymgynghoriad a chanlyniadau’r asesiadau amgylcheddol a thechnegol.
Mae ein hymgynghoriad anstatudol cyntaf ar gynigion Rhiwlas GEN bellach wedi dod i ben. Mae’r wybodaeth a ddangosir yn ystod yr ymgynghoriad hwn ar gael yma o hyd.
Pweru ynni cadarnhaol
Rydym eisiau gwneud yn siŵr bod gan Gymru yr ynni sydd ei angen mewn byd Sero Net.
Mae gan Gymru y potensial i fod ar flaen y gad yn y chwyldro diwydiannol gwyrdd. Mae potensial diddiwedd i gynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru - yn enwedig o’r gwynt sy’n chwythu dros ein bryniau a’n mynyddoedd. Fodd bynnag, mae ynni gwyrdd wedi’i gyfyngu i ardaloedd gwyntog Cymru: mae angen inni allu trawsyrru’r ynni hwn i’r cartrefi, ysbytai, ysgolion, diwydiannau, busnesau a’r cymunedau sydd ei angen.
Er mwyn mynd i’r afael â’r her, rydym yn datblygu rhwydwaith trydan adnewyddadwy cryfach, mwy cydnerth a rhyng-gysylltiedig, i drawsyrru ynni glân a gwyrdd o’r llefydd mae’n cael ei gynhyrchu, i’r llefydd sydd ei angen.
Rydym eisiau creu dyfodol cadarnhaol a glân i bawb. Heb y seilwaith cywir, ni fydd yn bosibl sicrhau dyfodol Sero Net yng Nghymru.
Cymryd ran
Mae ein hymgynghoriad anstatudol cyntaf ar gynigion Rhiwlas GEN (a gynhaliwyd rhwng 15 Tachwedd 2023 a 10 Ionawr 2024) bellach wedi dod i ben.
Bydd yr adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori nawr yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried gan dîm y prosiect, ochr yn ochr ag asesiadau technegol ac arolygon pellach.
Gall unrhyw un sy’n dymuno cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt y prosiect, gan gynnwys manylion cam nesaf yr ymgynghoriad anstatudol, gysylltu â thîm y prosiect gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar waelod y dudalen hon.